Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol
Gall cylchoedd chwarae cofrestredig, a adwaenir hefyd fel Cylchodd Cyn-ysgol neu Gylchoedd Meithrin, gael eu rhedeg gan grwpiau cymunedol neu wirfoddol, awdurdod lleol neu gwmni preifat.
Mae Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol a Chylchoedd Meithrin yn cynnig amgylchedd diogel ac ysgogol lle gall plant chwarae a dysgu gyda phlant eraill o’u cymuned leol. Mae’r ddau grŵp yn annog plant i ddysgu a chwarae gyda phlant eraill - yr unig wahaniaeth yw bod un yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg.
Mae’r rhan fwyaf o gylchoedd chwarae cyn-ysgol ar agor ar gyfer sesiynau bore neu brynhawn yn unig, am 2 i 4 awr, hyd at 5 niwrnod yr wythnos. Mae’r rhan fwyaf o blant rhwng 2½ a 5 oed er y gallant gymryd rhai plant 2 oed. Mae’r rhan fwyaf o gylchoedd cyn-ysgol yn gweithredu yn ystod y tymor yn unig.
Mae staff hyfforddedig, profiadol yn gweithio gyda’r plant. Mae gwirfoddolwyr a rhieni yn aml yn helpu. Maent yn cynnig ystod o weithgareddau i blant gan ddarparu cyfleoedd chwarae a dysgu.
Mae Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol yn codi ffi. Gall costau amrywio ac efallai y gallwch hawlio cymorth tuag at gost gofal plant.
Mae Cylchoedd Cyn-ysgol a Chylchoedd Meithrin yn cael eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Gall Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol fod yn aelod o Gymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol (WPPA) neu'r Mudiad Meithrin (MM).
Gwybodaeth bellach
Yn yr adran hon
- Cymorth i ddewis gofal plant
- Meithrinfeydd Dydd
- Gwarchodwyr Plant
- Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol
- Grwpiau rhieni, gofalwyr a phlant bach
- Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol
- Clybiau, Cynlluniau Chwarae a Gweithgareddau Gofal Plant Adeg Gwyliau
- Rheoleiddio Gofal Plant
- Cyllid Grant y Blynyddoedd Cynnar
- Cynllun Gwirfoddol Cymeradwy