Cynllun Gwirfoddol Cymeradwy

Manteision i Rieni
- Mwy o sicrwydd bod y person rydych yn ei gyflogi wedi bodloni’r gofynion sylfaenol, gan gynnwys gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Mae’n rhoi cadarnhad bod gan y person dystysgrif Cymorth Cyntaf a gafwyd yn ddiweddar ynghyd â chymhwyster gofal plant addas
- Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Credydau Cynhwysol neu gymorth ariannol arall fel Gofal Plant â Chymorth Cyflogwr
Am ragor o wybodaeth ynghylch cymhwysedd ar gyfer Credydau Cynhwysol, ewch i www.gov.uk
Manteision i Nanis
- Byddwch yn rhan o gynllun sy’n cael ei gydnabod ledled Cymru
- Gallwch ddangos i gyflogwyr eich bod yn bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer gofal plant gan gynnwys Gwiriad Manylach y DBS, Cymhwyster Gofal Plant addas a Thystysgrif Cymorth Cyntaf gyfredol.
Beth nad yw’r cynllun yn ei wneud?
- Nid yw’r cynllun yn cadarnhau bod gofalwr plentyn yn gymwys i weithio yn y DU. Mae hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb y cyflogwr.
- Nid yw’n gwarantu y bydd rhieni’n gymwys am gymorth ariannol a dylid gwirio hyn gyda Chyllid a Thollau EM.
Yn yr adran hon
- Cymorth i ddewis gofal plant
- Meithrinfeydd Dydd
- Gwarchodwyr Plant
- Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol
- Grwpiau rhieni, gofalwyr a phlant bach
- Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol
- Clybiau, Cynlluniau Chwarae a Gweithgareddau Gofal Plant Adeg Gwyliau
- Rheoleiddio Gofal Plant
- Cyllid Grant y Blynyddoedd Cynnar
- Cynllun Gwirfoddol Cymeradwy