Diogelu ac adrodd


Diogelu plant a allai fod mewn perygl

Os ydych yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei niweidio neu mewn perygl o gael ei niweidio yna mae dyletswydd arnoch chi i’w adrodd ar unwaith.

Os ydych yn pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl dybryd o niwed mae angen i chi ffonio 999 a siarad gyda Heddlu De Cymru.

Mae pob galwad am bryderon am blant yn cael eu trin yn ddifrifol. Os darganfyddir bod plentyn yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o niwed sylweddol bydd pobl broffesiynol yn gweithio gyda’r teulu i sicrhau bod y plentyn yn cael ei ddiogelu.

Mae’n bwysig bod pawb sy’n ymwneud gyda phlant a phobl ifanc yn gweithio gyda’i gilydd i’w cadw’n ddiogel. Rhai di anghenion plant a phobl ifanc ddod gyntaf.

It is important for everyone involved with children and young people to work together to try and keep them safe from harm.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth am adrodd eich pryder, peidiwch feddwl ‘Beth os ydw i’n anghywir?’, meddyliwch ‘Beth os ydw i’n gywir?’.

Gwasanaethau Plant Merthyr Tudful Rhif Ffôn: 01685 725000

Ar agor: 8.30am – 5.00pm (dydd Llun i ddydd Iau), 8.30am – 4.30pm (dydd Gwener)

Tîm Dyletswydd Brys: 01443 743665

(5.00pm – 8.30am dydd Llun i ddydd Iau 4.30pm – 8.30am dydd Gwener i ddydd Llun)

Yn yr adran hon